Llawlyfr Ysgol Rhoscolyn

Am ein hysgol

Croeso cynnes gan y Pennaeth

Mae dewis ysgol ar gyfer eich plentyn yn un o’r penderfyniadau pwysicaf y byddwch yn eu gwneud fel rhiant. Bydd arnoch eisiau dewis ysgol sy’n ddiogel, lle gwelir gwerth yn y plant ac y gofelir amdanynt. Bydd arnoch eisiau ysgol sydd â disgwyliadau uchel o ymddygiad a chyflawniad. Yn fyr, bydd arnoch eisiau amgylchedd dysgu sy’n ysgogol ac a fydd yn cynorthwyo’ch plant i dyfu’n bobl ifainc hapus a hyderus.

Yn Rhoscolyn, gallwn gynnig hyn oll.
Mae’r wybodaeth yn y prosbectws hwn yn amcanu at roi blas i chi o’r hyn y gallwn ei gynnig. Ni all fyth gymryd lle ymweld â’r ysgol, ond bydd yn rhoi i chi wybodaeth sylfaenol sy’n berthnasol i bob agwedd ar fywyd yr ysgol. Dewch i weld drosoch eich hun yr hyn sydd gennym i’w gynnig. Pan wnewch hynny, gwelwch ysgol gynradd ffyniannus a dyfeisgar sy’n gyfeillgar, yn ddiogel ac yn fwy na dim, yn llwyddiannus.

Edrychaf ymlaen at eich cyfarfod.

Rwth Ll Williams


Am ein hysgol

Mynediad

Y Cyfnod Sylfaen – 3 i 5 oed

Meithrin

Yn Rhoscolyn mae plant meithrin yn mynychu sesiynau yn rhan-amser yn y mis Medi yn dilyn eu trydydd pen-blwydd.

Derbyn

Mae’r ysgol yn derbyn disgyblion tro cyntaf yn ystod y mis Medi yn dilyn eu pedwerydd pen-blwydd, yn unol â pholisi’r AALL. Yn unol â Pholisi Derbyn y Sir, mae’n rhaid i bob cais gael ei gyflwyno erbyn Mawrth 1af ac erbyn diwedd Mawrth anfonir llythyr yn cadarnhau a dderbynnir y plentyn ai peidio.

Yn Ysgol Rhoscolyn rydym yn adnabod y ffaith bod plant ifainc eisoes wedi dehrau dysgu ymhell cyn dod i mewn i addysg gynnar. Yn y blynyddoedd cynnar, mae dysgu’r plant yn datblygu’n gyflymach nag ar unrhyw adeg arall. Mae ar blant angen amser i chwarae, i fyfyrio, i ailadrodd, ac i siarad â chyfoedion ac oedolion. Yn Ysgol Rhoscolyn rydym yn ceisio cynllunio profiadau a fydd yn ymestyn y dysgu hwn a chynllunio cwricwlwm sy’n briodol ar gyfer cyfnod dysgu’r plentyn.

Mae diddordebau, syniadau a phrofiadau’r plant yn ffurfio sylfeini cwricwlwm y blynyddoedd cynnar a rhoddir proffil uchel i ddysgu drwy chwarae. Addysgir y disgyblion mewn amgylchedd dysgu golau ac eang a darperir hwy â gweithgareddau a fydd yn ysgogi eu dysgu ac yn cynyddu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r byd. Anogir hwy i ddefnyddio eu synhwyrau, archwilio deunyddiau naturiol a gweithio gyda’i gilydd gan rannu syniadau ac adnoddau.

Mae’r dosbarth yn amgylchedd dysgu dymunol a chyfeillgar lle’r anogir y disgyblion i weithio ar y cyd ag oedolion a chyd-ddisgyblion. Gwerthfawrogir ac anogir eu barn ac arddangosir eu gwaith yn y dosbarth ac o’i amgylch.

Gwneir yn fawr o’r wlad o amgylch a phrydferthwch naturiol Rhoscolyn. Mae’r disgyblion yn aml yn mwynhau teithiau cerdded byr a gwibdeithiau awyr agored.

Mae staff y Blynyddoedd cynnar yn gosod pwyslais mawr ar unigoliaeth bob plentyn ac yn eu tro mae ein plant yn teimlo’n aelodau balch a gwerthfawr o’n Dosbarth Blynyddoedd Cynnar.


Am ein hysgol

_____________________________

Derbyniadau ar wahân i’r meithrin neu’r dosbarth derbyn

Rydym yn gwybod y gall ymuno ag ysgol newydd weithiau fod yn brofiad pryderus. Byddwn yn gwneud y cyfan a allwn i’ch cynorthwyo gyda’r broses. Os oes arnoch eisiau gwneud cais am le yn Rhoscolyn, yna mae angen i chi gysylltu ag Ysgrifenyddes yr Ysgol, a fydd yn trefnu apwyntiad gyda’r Pennaeth.

Os ydych yn ystyried gwneud cais am le i’ch plentyn yn ein hysgol, yna mae pob croeso i chi edrych o amgylch yn ystod neu ar ôl y diwrnod ysgol. Cynghorir chi i drefnu apwyntiad i sichau y bydd amser ar gael i ateb unrhyw gwestiynau a all fod gennych.

Cyn ac ar ôl ysgol

Mae plant sy’n cofrestru ar gyfer ein Clwb Brecwast yn cyrraedd yn yr ysgol ar gyfer 8.00 y bore, yn mwynhau brecwast maethlon yn neuadd yr ysgol, ac arolygir hwy yn chwarae gan staff y Clwb Brecwast tan 8:50 y bore.

Mae plant sy’n dewis peidio â mynychu’r Clwb Brecwast yn cyrraedd yr ysgol rhwng 8:50 y bore a 9.00 y bore, a goruchwylir hwy gan yr athrawon, a fydd yn ymdrechu i beri eu bod ar gael ar yr adeg hon i ddelio gydag unrhyw faterion dydd i ddydd neu ymholiadau a all fod gennych.

Mae gan rieni gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau bod eu plentyn yn mynychu’r ysgol mewn pryd. Bydd bod yn hwyr neu’n absennol yn barhaus yn cael effaith wael ar ddysgu eich plentyn yn ogystal â dysgu eu cyd-ddisgyblion. Mae unrhyw blentyn sy’n colli dechrau’r diwrnod dan anfantais yn syth. A fyddech mor garedig â sicrhau bod eich plentyn yn cyrraedd yn yr ysgol cyn 9:00 y bore.

Rydym yn gofyn i rieni plant iau fynd gyda’ch plentyn i Fynedfa’r dosbarth Meithrin a’r dosbarth Derbyn yng nghefn yr ysgol, lle bydd yr athro dosbarth yn barod i gyfarch y plant o 8.50 y bore. Gall plant hŷn aros ar yr iard heb oruchwyliaeth rhieni. Gofynnir i’r rhieni beidio â mynd gyda’u plentyn i’r prif adeilad, fodd bynnag mae Swyddfa’r Ysgrifenyddes ar agor pe bai ar y rhieni angen cymorth.

Ar ddiwedd y diwrnod ysgol, hebryngir y plant iau i giât yr ysgol gan eu hathrawon a fydd yn gollwng eich plentyn yn unig pan allant eich gweld chi neu’r gofalydd enwebedig. Gall plant hŷn gerdded neu seiclo adref heb eu goruchwylio. Mae plant sy’n defnyddio bysiau’r ysgol yn cael eu hebrwng at y bws gan yr athrawon.

Eir ag unrhyw blentyn sydd heb ei nôl i’r brif fynedfa i aros am eu rhieni. Rhowch wybod i ni os byddwch yn hwyr, os gwelwch yn dda.

Am ein hysgol

____________________________________

Mae Rhoscolyn yn hybu dull sy’n ddysgwr-ganolog ac yn sgil-ffocysedig, gan adeiladu ar Gam Sylfaen rhagorol ac sy’n cysylltu’n effeithlon â newid cadarn o Gyfnod Allweddol 2 i Gyfnod Allweddol 3 a’r rhaglen Llwybrau Dysgu.

Mae cwricwlwm yr ysgol wedi ei gynllunio i drosglwyddo amcanion ehangach y Llywodraeth, yn cynnwys hybu:

· Addysg ar gyfer datblygu cynaladwy a dinasyddiaeth fyd-eang

· Byd gwaith ac entrepreneuriaeth

· Bwyta iach a gweithgaredd corfforol

Addysg Bersonol a Chymdeithasol

Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABACH) yw’r broses o gynorthwyo dysgwyr i ddatblygu’r sgiliau, yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth y mae arnynt ei hangen i fyw bywydau hyderus, iach ac annibynnol. Cynorthwyir y dysgwyr hefyd i egluro eu gwerthoedd a’u hagweddau personol mewn perthynas â’r rhai a ddelir gan bobl eraill a chymdeithas yn gyffredinol.

Y Fframwaith Sgiliau

Mae’r fframwaith sgiliau yn darparu arweiniad ynghylch parhad a dilyniant mewn meddwl, rhif, technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGaCH)a chyfathrebu ar gyfer dysgwyr o 3-19 a thu draw. Sgiliau yw’r rhain a fydd yn galluogi dysgwyr o unrhyw oedran i ddod yn llwyddiannus, boed yn yr ysgol, y gweithle, gartref neu yn rhywle arall ac yn Rhoscolyn maent wedi eu plannu’n gadarn ym mhrofiad dysgwyr ar draws y cwricwlwm.

Mae’r fframwaith wedi ei ffurfio o bedair adran – datblygiad meddwl, rhif, TGaCh a chyfathrebu ar draws y cwricwlwm. Mae’n amcanu at ddefnyddio iaith ar y cyd â datganiadau perthynol i feysydd addysg eraill – er enghraifft, canlyniadau dysgu’r Cam Sylfaenol ac un y cymwysterau Sgiliau Allweddol (Lefelau 1 a 2) – fel bod pob un yn cyflenwi ac yn atgyfnerthu’r llall. Mae’r tair Sgil Allweddol ehangach: gweithio gydag eraill, gwella dysgu a pherfformiad yr hunan a datrys problemau, wedi eu cyfuno yn yFframwaith Sgiliau, yn fwyaf nodedig yn natblygiad meddwl.

Hawl Dysgwyr

Mae Rhoscolyn yn addysgu pob rhaglen astudio a fframwaith mewn ffyrdd sy’n briodol ar gyfer aeddfedrwydd a gallu’r dysgwyr sy’n datblygu. Mae’r disgyblion yn profi amrywiaeth o arddulliau i ymestyn eu dysgu. Rydym yn cyflwyno deunydd mewn modd sy’n addas ar gyfer oed, profiad, dealltwriaeth a chyflawniad blaenorol y disgyblion i’w hymrwymo yn y broses ddysgu. Mae digon o hyblygrwydd yn bodoli o fewn ein cwricwlwm i gwrdd ag anghenion pob dysgwr. Ar gyfer disgyblion sy’n gweithio ar lefelau uwch, ymgorfforir mwy o her drwy gyflwyno deunydd mewn ffyrdd sy’n ymestyn lled a dyfnder yr astudio. Gall lefel y galw hefyd gael ei chynyddu drwy ddatblygu a chymhwyso cyfathrebu, rhif, technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGaCh) a sgiliau meddwl ar draws y cwricwlwm. Yn Rhoscolyn rydym yn darparu cwricwlwm ystyrlon, perthnasol a symbylus ar gyfer ein disgyblion ac rydym yn amcanu at gyfarfod ag anghenion penodol dysgwyr a hyrwyddo eu datblygiad cyffredinol.

Cwricwlwm
_________________________________

Llythrennedd

Mae disgyblion Rhoscolyn yn dod yn siaradwyr hyderus, cydlynus a dengar, yn gweithio fel unigolion ac fel aelodau o grŵp. Mae’r disgyblion yn cymryd rhan mewn gweithgareddau drama a chwarae rhan cyffrous, gan ddatblygu eu profiadau o’r blynyddoedd cynnar gydag ystod o bypedau a llyfrau storïau lliwgar. Mae’r disgyblion yn datblygu yn wrandawyr gweithredol ac ymatebol mewn ystod eang o sefyllfaoedd.

Anogir y disgyblion i ddod yn ddarllenwyr rhugl – mae cynlluniau darllen hollgynhwysfawr yr ysgol yn darparu ar gyfer anghenion ein disgyblion oll. Maent yn profi ystod gynyddol eang o gyd-destunau sy’n gofyn llawer, ar gyfer mwynhad gwybodaeth, fel eu bod yn datblygu yn ddarllenwyr rhugl ac effeithlon.

Rydym yn amcanu i’n disgyblion ddod yn ysgrifenwyr medrus, sy’n ysgrifennu’n glir ac yn gydlynol mewn ystod o ffurfiau ac ar gyfer ystod o bwrpasau. Mae llawer o ddisgyblion yn mwynhau cymryd rhan yn fisol yn ein Cystadleuaeth Ysgrifenwyr Ifainc. Mae’r ysgol yn falch o’i Marc Ansawdd Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol am ei darpariaeth Llythrennedd Saesneg.

Mathemateg

Ein bwriad yw i’n disgyblion ddatblygu agweddau cadarnhaol tuag at Fathemateg drwy feddwl a datrys, rhesymu a deall problemau bywyd go iawn.

Byddant yn gwneud hynny drwy ymestyn eu defnydd o’r gyfundrefn rifau, cyfrif yn ddibynadwy a chyfrifo’n rhugl gyda’r cyfan o’r pedwar gweithrediad rhif. Rydym yn addysgu iddynt ddatrys problemau gan ddefnyddio dulliau pen ac ysgrifenedig o gyfrifo, strategaethau amcangyfrif a’r defnydd priodol o gyfrifianellau.

Tua diwedd Cyfnod Allweddol 2 disgwylir iddynt allu dethol, trafod, esbonio a chyflwyno Mathemateg yn defnyddio ystod gynyddol o iaith, diagramau a siartiau.

Cyflwynir gwersi’n defnyddio’r dechnoleg ryngweithiol ddiweddaraf. Rydym yn amcanu at wneud Mathemateg yn Rhoscolyn yn ddiddorol, yn bleserus ac yn hygyrch ar gyfer ein disgyblion i gyd.

Gwyddoniaeth

Mae Gwyddoniaeth yn Rhoscolyn yn mabwysiadu chwilfrydedd a chreadigrwydd, ac mae’n ddiddorol, yn bleserus, yn berthnasol ac yn heriol i’r disgyblion. Rydym yn galluogi dysgwyr i gychwyn, archwilio a rhannu syniadau, ac ymestyn, mireinio a chymhwyso eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth yn eu sefyllfaoedd newydd. Rydym yn caniatáu amser ar gyfer meddwl, trafod gyda chyfoedion a myfyrio.

Mae’r disgyblion yn darganfod am:

· Y Byd Cynaliadwy – planedau yn y gyfundrefn heulol, defnyddiau o’u hamgylch, a phwysigrwydd ailgylchu ….

· Trydan – darlunio diagramau cylched, adeiladu cylchedau trydan ac amrywio cerrynt

· Grymoedd – magnedau, awyrennau papur, balwnau aer poeth, defnyddio mesuryddion grym, disgyrchiant, ffrithiant, gwrthsafiad aer…

· Sŵn- gwrthrychau dirgrynol, deall traw ac uchder, sut mae sŵn yn teithio…

· Golau – drychau, perisgopau, pypedau cysgod, cysgodion..

· Annibyniaeth a Rhyngddibyniaeth Organeddau – cadwynau bwyd, amgylchedd lleol, maeth, ymarfer, planhigion, bwystfilod bach… 5

Cwricwlwm

Daearyddiaeth

Yn Rhoscolyn rydym yn amcanu at feithrin yn y disgyblion synnwyr o ryfeddod o leoedd a’r byd o’u hamgylch. Drwy astudio ein lleoliad Cymreig, y byd tu hwnt, gwahanol amgylcheddau a digwyddiadau yn y newyddion, bydd y disgyblion yn datblygu eu dealltwriaeth o sut rai yw lleoedd a sut a pham y maent yn newid.

Yn CA1 mae’r disgyblion yn dilyn cymeriad o’r enw Nia ar daith i wahanol leoliadau. Yn ddiweddarach rydym yn edrych mewn mwy o ddyfnder ar ein rhanbarth arfordirol a’i dirlun newidiol, afonydd, tywydd a lle mae pobl yn byw. Drwy astudio lleoliadau gwrthgyferbyniol megis pentrefi yn India a Botswana, mae’r disgyblion yn dod yn ymwybodol o wahanol lefelau o ddatblygiadau economaidd y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

Hanes

Ein bwriad yw arwain eich plentyn ar daith drwy amser. Yn CA1, mae’r gwaith yn seiliedig ar brofiadau’r plentyn, yn cwmpasu themâu megis teganau, tai,y teulu a chludiant. Mae CA2 yn dechrau gydag astudiaeth o Wareiddiad Yr Hen Aifft, mae’r disgyblion yn dysgu am ‘felltith’ Tutankhamun ac yn datgodio hieroglyffau hynafol. Mae’r disgyblion yn dysgu am Gymru yn yr oes Geltaidd, yn cymharu ein bywydau gyda’r ffordd yr oedd pobl yn byw yn y gorffennol. Wedi hynny, mae’r disgyblion yn gwneud siart o esgyniad a chwymp yr Ymerodraeth Rufeinig, gan ymchwilio i’r hyn y gellir ei ddysgu o’r adfeilion gwych yn Rhufain ac o safleoedd ar raddfa lai yn ein hardal ni ein hunain. Mae’r disgyblion yn dysgu am dywysogion Cymru a’u brwydrau yn erbyn y Breninn Edward I, gan ymweld ag un o’i gestyll ardderchog yng Ngogledd Cymru. Yna, maent yn darganfod bywyd yn amser y Tuduriaid ac yn astudio rhai o’r prif newidiadau a ddigwyddodd yn ystod teyrnasiad y Frenhines Fictoria. Mae’r daith hanesyddol yn dod i ben gyda dau fodiwl ar yr ugeinfed ganrif. Bydd y cyntaf yn archwilio agweddau ar yr Ail Ryfel Byd, yna ymchwiliad o ran olaf y ganrif, yn dysgu am fywydau ffigurau cydoesol, y ras i’r gofod, a genedigaeth y byd uchel dechnolegol rydym ni’n byw ynddo.


Cwricwlwm
___________________________

Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

Rydym yn amcanu at ddatblygu yn ein disgyblion hyder a medr yn y defnydd o TGaCh, sy’n hanfodol i’w llwyddiant mewn addysg a byd gwaith. Mae TGaCh wedi ei gyfuno’n llawn yng nghwricwlwm yr ysgol , a chredwn y dylai’r pwnc fod wedi ei blannu mewn dysgu bob dydd, ac felly rhoddir y cyfle i’r disgyblion ddatblygu eu sgiliau mewn TGaCh drwy rifedd, llythrennedd, gwyddoniaeth, y celfyddydau, dylunio a thechnoleg a’r dyniaethau. Mae gan bob dosbarth yn Rhoscolyn fwrdd gwyn rhyngweithiol. Mae gan Flynyddoedd 5 a 6 gymhareb disgybl / gliniadur o 1:2.

Cerddoriaeth

Mae Rhoscolyn yn galluogi dysgwyr i ymrwymo mewn cerddoriaeth, a mwynhau gwneud cerddoriaeth. Mae’r disgyblion yn datblygu sgiliau cerddorol perthynol i reoli, trin a chyflwyno sŵn. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys canu a chanu offerynnau; cyfansoddi ar y pryd, cyfansoddi a threfnu cerddoriaeth; a gwrando ar gerddoriaeth a’i gwerthuso. Ein Sioe Nadolig flynyddol yw un o uchafbwyntiau calendr gwyliau’r gymuned.

Addysg Grefyddol

Mae AG yn CA1 yn ymarferol ac yn lliwgar, yn addysgu disgyblion am ffydd a ffyrdd o fyw pobl. Yn ddiweddarach, mae Rhoscolyn yn ymrwymo disgyblion gyda chwestiynau sylfaenol, gan archwilio credoau crefyddol, addysgu ac ymarfer ac annog ymatebion personol. Rydym yn cyflwyno credoau crefyddau mawr y Byd, gan annog y disgyblion bob amser i lunio cymariaethau gyda’r ardal Gristnogol yn bennaf lle maent yn byw. Mae’r disgyblion yn dysgu am arteffactau a lleoedd o bwysigrwydd i gredowyr ac yn ystyried profiadau dynol hefyd.

Cwricwlwm
__________________________

Celf

Mae gallu creadigol yn ffynnu yn Rhoscolyn, lle mae’r disgyblion wedi ymrwymo gyda gwaith artistiaid, crefftwyr a dylunwyr.

Mae celf a dylunio yn ysbarduno gallu creadigol a dychymyg ac yn herio’r disgyblion i ffurfio barn a gwneud penderfyniadau ymarferol. Gan ddefnyddio amrywiaeth o ddefnyddiau a phrosesau megis tecstiliau, collage, cerflunio 3D, paentio, gwneud printiau, gwaith batic a llyfr brasluniau, maent yn cyfathrebu eu syniadau a’u teimladau drwy iaith gyffyrddol, weledol a synhwyraidd. Yn CA1 mae’r disgyblion yn datblygu sgiliau mewn ystod o gyfryngau, yn cynnwys collage, gwaith clai, gwau a modelu, a phob amser yn mwynhau y modiwl ‘pypedau bys’! Yn CA2 mae gwaith celf yn aml yn cyflenwi’r gwaith a ddangosir mewn orielau celfyddydol lleol a chenedlaethol – mae ymweliadau wedi cynnwys gwibdeithiau i Oriel Môn ac Oriel y Tate.

Mae Rhoscolyn yn ymfalchïo yn ansawdd gwaith celf y disgyblion ac mae’n arddangos llawer o ddarnau nodedig yn ei horiel ac ar lein. Gwahoddir artistiaid yn rheolaidd i gyfoethogi profiadau’r dysgwyr. I’r rhai sydd arnynt eisiau eu hymestyn eu hunain ymhellach, rydym yn cynnig Clwb Celf wythnosol ar ôl ysgol. Rydym yn annog y disgyblion i weithio gydag afiaith creadigol wrth ddilyn yn ôl troed Picasso, Pollock, Warhol, Miro, Goldsworthy, Heron, Hepworth a Moore.

Cwricwlwm
________________

Chwaraeon

Mae Addysg Gorfforol yn annog dysgwyr i archwilio a datblygu’r sgiliau corfforol sy’n hanfodol ar gyfer cymryd rhan mewn amrywiaeth o wahanol weithgareddau. Yn adeiladu ar y rhain ceir cyfleoedd i fod yn greadigol ac yn ddychmygus mewn gweithgareddau gymnasteg a dawns.

Drwy weithgareddau anturus, maent yn dysgu sut i nofio a theimlo’n ddiogel yn y dŵr a sut i ddarllen map neu ddilyn llwybrau, fel ei bod yn dod yn fwy diogel i fynd ymhellach ac archwilio glan y môr a’r wlad. Mae gweithgareddau cystadleuol yn cynnig y cyfle i ddysgu sgiliau gemau a chwarae mewn tîm , yn ogystal â sut i redeg yn gyflymach, neidio’n uwch, a thaflu ymhellach. Dechreuodd y disgyblion ddeall bod addysg gorfforol yn ymwneud â dysgu sut i deimlo’n iach ac aros yn heini wrth gael hwyl, a gwybod sut mae’r gwahanol fathau hyn o weithgareddau yn eu cynorthwyo hwy i aros felly.

Bob blwyddyn ysgol mae ein calendr Addysg Gorfforol yn cynnwys: hoci, pêl-droed, rygbi, dawns, ffitrwydd, gymnasteg, nofio, criced, pêl-fasged, pêl-rwyd, athletau ac addysg awyr agored. Rydym yn croesawu digwyddiad rhedeg pellter hir blynyddol y sir ar ein tir helaeth. Yn ystod y flwyddyn ysgol rydym hefyd yn darparu cyfleoedd i ddisgyblion fynychu cyrsiau preswyl mewn addysg awyr agored.

Yn ystod cwrs y flwyddyn, rydym yn cynnal clybiau ar ôl ysgol mewn pêl-droed rygbi, criced a phêl fasged. Mae clwb ar ôl ysgol yr Urdd yn mynd â phlant i sgïo, dringo creigiau a chanŵio ymhlith llawer mwy o weithgareddau.

Anogir chwaraeon cystadleuol. Rydym yn rheolaidd yn rhoi timau i mewn ar gyfer twrnameintiau rygbi, pêl-droed a chriced, ynghyd â’r gala nofio flynyddol.

Mae pob agwedd ar Addysg Gorfforol yn orfodol, ac mae cit priodol yn ofynnol ar gyfer gwersi. Mae esgidiau hyfforddi (trenars) yn ofynnol ar gyfer gwersi awyr agored a sesiynau yn y Neuadd Chwaraeon, tra bo’r disgyblion yn cymryd rhan mewn gwersi gymnasteg a dawns yn droednoeth. Mae’n rhaid i ddisgyblion sy’n dymuno cael eu hesgusodi o sesiwn AG am resymau meddygol ddarparu cais ysgrifenedig.

Cwricwlwm
__________________________________

Dylunio a Thechnoleg

Mae Technoleg yn Rhoscolyn yn ddyfeisgar ac yn gyffrous. Perir bod y disgyblion yn ymwybodol o gyflawniadau ym myd dylunio a thechnoleg a’r syniadau mawr sydd wedi siapio’r byd. Anogir hwy i fod yn greadigol ac yn ddyfeisgar wrth fod yn ymwybodol o faterion perthynol i gynaladwyedd a materion amgylcheddol yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae’r disgyblion yn mwynhau dylunio a gwneud hetiau gwlanog ar gyfer eu gwisgo yn yr awyr agored – gwych ar gyfer amodau tywydd y gaeaf ar Ynys Môn! Hefyd maent wrth eu bodd yn addasu rysaitiau er mwyn datblygu dewisiadau ffordd o fyw iachach, ac yn creu strwythurau 3D yn defnyddio systemau niwmatig – gan gyfeirio bob amser at y cynlluniau manwl y byddant wedi eu cynhyrchu gyntaf yn defnyddio pecyn meddalwedd arbenigol. Gyda’r newid o’r ysgol gynradd i’r sector uwchradd mewn golwg, mae disgyblion Blwyddyn 6 yn mynd drwy fodiwl Systemau a Rheoli yn yr ysgol uwchradd leol, yn cael eu haddysgu yn eu bloc technegol wedi ei adeiladu’n bwrpasol.

Cynnwys yr holl Ddysgwyr

O dan ofynion deddfwriaeth cyfle cyfartal sy’n cwmpasu hil, rhyw ac anabledd yn Rhoscolyn rydym yn amcanu at:

· Ddileu gwahaniaethu ac aflonyddu a hybu agweddau cadarnhaol.

· Hybu cyfleoedd cyfartal ac annog cyfranogiad ym mhob maes o fywyd ysgol.

Rydym yn credu y dylai pob dysgwr ddatblygu synnwyr o hunaniaeth personol a diwylliannol sy’n dderbyngar ac yn barchus tuag at eraill. Cynllunnir pynciau i ddatblygu’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth, y sgiliau, y gwerthoedd a’r agweddau sy’n galluogi ein disgyblion i gymryd rhan yn ein cymdeithas aml-ethnig.

Wrth baratoi ein disgyblion ar gyfer bywyd fel dinasyddion byd-eang, rydym yn gweithio i leihau rhwystrau amgylcheddol a chymdeithasol ac yn darparu cwricwlwm cynhwysol sy’n cynnig cyfleoedd i bob dysgwr gyflawni yn yr ysgol.

Rydym yn gweithio gyda gwasanaethau arbenigol i sicrhau profiadau dysgu perthnasol a hygyrch ar gyfer pawb. Ar gyfer disgyblion gydag anableddau, rydym yn ymdrechu i wella mynediad i’r cwricwlwm, yn cynyddu mynediad i wasanaethau addysg a chysylltiol ac yn darparu gwybodaeth mewn ystod o ffurfiau.

Cwricwlwm
__________________________________________

Defnyddio’r Iaith Gymraeg

Mae’r Awdurdod Addysg Lleol yn gweithredu polisi dwyieithog ym mhob ysgol o fewn Ynys Môn. Yr amcan yw datblygu gallu’r disgyblion a’r myfyrwyr o fewn y sir i fod yn hyderus ddwyieithog er mwyn iddynt fod yn aelodau llawn o’r gymdeithas ddwyieithog y maent yn rhan ohoni. Yma yn Rhoscolyn, rydym yn adlewyrchu ac yn atgyfnerthu’r polisi iaith yn ein gweinyddiaeth, ein bywyd cymdeithasol a’n trefniadau bugeiliol yn ogystal ag yn ein darpariaeth academaidd.

Addysg Feithrin

Sicrhau, drwy ddarpariaeth a threfniadaeth a strwythurwyd yn sensitif, bod pob plentyn yn derbyn sylfaen gadarn yn y Gymraeg er mwyn ei (g)alluogi maes o law i gyrraedd amcan dwyieithrwydd llawn.

CA1

Adeiladu ar sylfeini’r Gymraeg a osodwyd drwy addysg feithrin, cadarnhau a datblygu mamiaith disgyblion sy’n ddysgwyr Cymraeg ac ymestyn cymhwysedd y disgybl o gartref Cymraeg ei iaith mewn Saesneg.

CA2

Cadarnhau a datblygu galluoedd Cymraeg a Saesneg pob disgybl ym mhob agwedd, yn weithredol ac yn dderbyngar, fel ag i sicrhau y gall ef/hi siarad, darllen ac ysgrifennu’n rhugl ac yn hyderus yn y ddwy iaith ar drosglwyddo i’r ysgol uwchradd.

Mae hwyrddyfodiaid i CA2 yn mynychu cwrs byr (6 wythnos) mewn Uned Iaith Gymraeg lle’r ânt drwy hyfforddiant dwys yn y Gymraeg wedi ei gynllunio i’w cyfarparu gyda’r sgiliau ieithyddol sydd eu hangen i elwa o’r cyfan sydd gan Roscolyn i’w gynnig.

Cyfrwng hyfforddiant

Addysgir Saesneg, Gwyddoniaeth a Mathemateg dtrwy gyfrwng y Saesneg. Addysgir y Celfyddydau, y Dyniaethau a Thechnoleg yn ddwyieithog.

Yn Rhoscolyn rydym yn sicrhau bod pob disgybl yn defnyddio’r ddwy iaith yn gyfrwng dysgu ar raddfeydd amrywiol yn ôl anghenion pob unigolyn.

Gwaith Cartref

Yn Rhoscolyn credwn y gall gwaith cartref ychwanegu at ansawdd addysg plentyn. Gofynnir i ddisgyblion gwblhau tasg gartref i gyflenwi’r hyn y buont yn ei ddysgu yn y dosbarth.

Addysg Ryw

Yng Nghyfnod Allweddol 1, mae disgyblion yn dysgu’r cyfan amdanynt eu hunain a pham y maent yn arbennig. Maent yn dysgu am gylchoedd bywyd planhigion ac anifeiliaid a’r gwahaniaethau rhyngddynt eu hunain ac eraill. Drwy gydol hyn oll, mae’r disgyblion yn dysgu am bwysigrwydd ffordd o fyw iach, hylendid personol, diet, gorffwys a diogelwch personol.

Fel y maent yn mynd yn hŷn, cysylltir eu haddysg ryw â’r gwaith a wnânt mewn Addysg Bersonol, Cymdeithasol, Iechyd a Dinasyddiaeth (PSHEC / ABACHID). Mae’r disgyblion yn dechrau gofyn cwestiynau amdanynt eu hunain a chaniateir iddynt wneud hynny mewn amgylchedd gefnogol a sensitif. Pan fo’r disgyblion yn mynd i flwyddyn 6, byddant yn dechrau dysgu am ffeithiau sylfaenol atgenhedlu dynol, gan ddefnyddio ffilmiau fideo priodol a chefnogaeth a chyngor gan nyrs yr ysgol.

Mae gan rieni’r hawl i dynnu eu plentyn allan o elfennau penodol o’r rhaglen Addysg Ryw ac mae’n rhaid iddynt wneud hynny yn ysgrifenedig. Bydd y Pennaeth wedyn yn trefnu cyfarfod i drafod y mater gyda chi.

Cwricwlwm
________________________

Cynulliad / Gwasanaeth

Rydym yn credu bod gwasanaethau’n chwarae rhan bwysig ym mywyd disgybl yn y gymuned ysgol. Mae gwasanaeth yn digwydd bob dydd, un ai ar gyfer yr ysgol gyfan neu yn y dosbarth. Amcanwn i ymgorffori’r egwyddorion moesol a chrefyddol a ddelir yn gyffredin gan grefyddau, wrth gynnal y dull Cristnogol eang sy’n ofynnol yn y gyfraith. Anogir y disgyblion i gymryd rhan weithredol yn ein gwasanaethau ac weithiau eu harwain yn rhan o wasanaeth dosbarth.

Gall rhieni dynnu eu plant allan yn gyfan gwbl neu’n rhannol o fynychu unrhyw AG nac addoli torfol. Mae’n rhaid i gais gael ei wneud yn ysgrifenedig i’r Pennaeth a fydd yn eich gwahodd i drafod y mater i osgoi camddealltwriaeth:

y materion crefyddol y byddai rhiant yn gwrthwynebu i’r plentyn gael ei addysgu amdanynt

goblygiadau ymarferol tynnu allan

yr amgylchiadau lle byddai’n rhesymol boddhau dymuniadau’r rhieni

a fydd ar riant angen unrhyw rybudd ymlaen llaw o fater o’r fath yn y dyfodol ac os felly, faint

Ymweliadau addysgol a hyfforddiant allgyrsiol

Mae Rhoscolyn yn darparu’r cyfleoedd addysgol gorau posibl. Credwn y dylai addysg dydd i ddydd fod yn rhydd o unrhyw dâl gorfodol i rieni a gwarcheidwaid. Rydym yn awyddus gwneud y mwyaf o’n hamgylchedd lleol cyfoethog, ein treftadaeth a’r cyfleusterau ardderchog a gynigir mewn dinasoedd mawr drwy addysgu ein disgyblion y tu allan i’r dosbarth a therfynau’r ysgol.

Yn Rhoscolyn rydym yn adnabod y bydd ar rai o’r gweithgareddau a fydd yn cyfoethogi amser eich plentyn gyda ni angen cael eu cefnogi gan gyfraniadau ariannol yn gyfan neu’n rhannol gan rieni. Pryder Rhoscolyn yw cadw cyfraniadau ariannol i leiafswm rhesymol a sicrhau cyn belled ag y bo modd bod pob disgybl yn gallu cymryd rhan, waeth beth fo eu hamgylchiadau. Ar gyfer ymweliadau y tu allan i amser ysgol codir ar rieni am bob cost a ganiateir.

Codir tâl ar gost a gymorthdelir ar rieni plant sy’n dewis ymgymryd â gwersi offerynnol ychwanegol.

Codir tâl llawn am golled neu ddifrod i lyfrau neu offer addysgol.

Mae disgyblion Rhoscolyn yn cynhyrchu llawer o enghreifftiau o gynhyrchion celf a dylunio o’r radd flaenaf. Mae’r disgyblion yn datblygu eu sgiliau entrepreneuraidd drwy werthu gwaith Celf ar lein drwy wefannau llwyddiannus yr ysgol. Codir yn unol â hynny ar rieni sy’n dymuno cael meddiant o’r cynhyrchion neu’r printiau gorffenedig .

Cynnydd eich Plentyn
_________________________________

Asesu

Bydd yr athro dosbarth yn asesu eich plentyn drwy gydol y flwyddyn, gan blotio datblygiad eich plentyn yn defnyddio ein system ar lein ddiogel sy’n caniatáu i ni lwybro cynnydd pob disgybl drwy gydol ei (h)amser yn Rhoscolyn. Yn ychwanegol, mae’r disgyblion yn cwblhau asesiadau ysgrifenedig i fesur cynnydd mewn llythrennedd a rhifedd ar ddechrau a diwedd pob blwyddyn ysgol. Mae data o’r tasgau hyn yn cynorthwyo’r athrawon i wneud asesiadau statudol yn nhymor yr haf o ddisgyblion ym Mlwyddyn 2 a Blwyddyn 6.

Adroddiadau Blynyddol

Byddwch yn derbyn adroddiad blynyddol bob mis Gorffennaf, yn rhoi manylion am y cynnydd a wnaeth eich plentyn yn ystod y flwyddyn. Mae’r adroddiad yn cwmpasu pob un o bynciau’r Cwricwlwm Cenedlaethol ac yn adnabod targedau ar gyfer gwella ar gyfer y flwyddyn ddilynol. Ar ddiwedd Blwyddyn 2 a Blwyddyn 6, mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys manylion o lefel asesu statudol eich plentyn.

Nosweithiau Agored

Gwahoddir chi i gyfarfod tymhorol i drafod cynnydd eich plentyn gyda’r athro dosbarth/athrawes ddosbarth. Cynhelir y cyfarfodydd hyn mis nos ac maent yn rhan bwysig iawn o addysg eich plentyn. Yn nhymor yr haf, rhoddir y cyfle i chi drafod adroddiad blynyddol eich plentyn. Mae croeso i rieni wrth gwrs bob amser i drafod materion gyda’u hathro dosbarth ar adegau eraill yn ystod y flwyddyn ond gofnnir iddynt drefnu apwyntiad ymlaen llaw. Mae arnom eisiau gweithio’n agos gyda rhieni a bod yn bartneriaid yn y broses ddysgu, fel y gallwn ddarparu’r addysg orau bosibl i’ch plentyn.

Anghenion Ychwanegol

Mae gan rai disgyblion yn Rhoscolyn anghenion dysgu ychwanegol o un math neu’i gilydd. Mae gennym nifer o staff sy’n gallu cefnogi’r athro dosbarth i gyfarfod â’r anghenion hyn. Mae gan yr ysgol Gydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig, neu SENCo/CAAA sy’n gyfrifol am sicrhau y cyfarfyddir â’r anghenion arbennig hyn. Mae’r SENCo/CAAA yn gweithio’n agos iawn gyda’r rhieni i gynorthwyo’r plentyn gymaint ag y bo modd. Anogir rhieni i rannu unrhyw bryderon y gall bod ganddynt ynghylch dysgu eu plentyn gyda’r athro dosbarth neu’r SENCo/CAAA.

Cymuned yr Ysgol
__________________________________

Cytundebau Cartref-Ysgol

Mae gennym Gytundeb Cartref-Ysgol yr ydym yn gofyn i bob rhiant ei arwyddo. Datganiad ydyw o’n hamcanion a’n gwerthoedd, yn amlinellu cyfrifoldebau pawb mewn perthynas ag addysg eich plentyn. Gellir dod o hyd i gopi o’r Cytundeb Cartref-Ysgol yn y boced ar ddiwedd y prosbectws hwn.

Llywodraethwyr

Mae Corff Llywodraethu’r ysgol i gyd yn wirfoddolwyr sy’n cyfarfod yn rheolaidd i gefnogi’r Pennaeth i arwain a rheoli’r ysgol. Mae ein llywodraethwyr i gyd yn gynrychiolwyr y gymuned leol, yn rhieni, athrawon, cynghorwyr a busnesau lleol.

Plant

Rydym yn credu bod y plant yn chwarae rhan allweddol yn natblygiad yr ysgol. Rydym yn ymgynghori â hwy’n rheolaidd ar faterion ac rydym yn awyddus i ddarganfod eu barn. Mae gennym Gyngor Ysgol gweithredol sy’n cynnwys aelodau etholedig o wahanol grwpiau blwyddyn. Maent yn cyfarfod yn rheolaidd gyda’r Dirprwy Bennaeth i drafod materion ac adrodd yn uniongyrchol wrth y Pennaeth a’r Llywodraethwyr.

Lles a Diogelwch
___________________________

Ymddygiad

Rydym yn amcanu i’n holl ddisgyblion fod yn ymddwyn yn dda ar bob adeg, gyda hunan-ddisgyblaeth dda. I wneud hynny mae angen i ni weithio mewn partneriaeth gyda’r rhieni. Er mwyn cefnogi hyn, mae gennym bolisi rheoli ymddygiad cadarnhaol, sy’n amlygu rheolau’r ysgol, ynghyd â systemau gwobrwyo i annog ymddygiad da. Os bydd plentyn yn torri rheol ysgol, mae rhestr fanwl o sancsiynau yn amlinellu’n glir y gweithredu priodol i’w ddilyn.

Disgwylir safonau o ymddygiad da ar bob adeg. Atgoffir pob disgybl na oddefir bwlio a hiliaeth yn yr ysgol.

Meddyginiaethau

Os bydd eich plentyn yn ddigon da i fynychu’r ysgol ond bod arno/arni angen cymryd meddyginiaeth o hyd, ni chaniateir i’r staff ei gweinyddu. Yn gyffredinol, os oes angen cymryd moddion 3 gwaith y dydd, gellir ei roi gartref cyn yr ysgol ac eto pan ddaw eich plentyn adref (gyda’r trydydd dogn cyn amser gwely). Os oes arnoch angen i’r ysgol roi meddyginiaeth i’ch plentyn yn ystod y dydd, cysylltwch â’r Pennaeth.

Os oes angen pwmp anadlu ar eich plentyn, yna rhowch wybod i’r Pennaeth yn ysgrifenedig. Mae’n rhaid i’r anadlydd aros gyda’ch plentyn ar bob adeg, gyda’i (h)enw a’r Flwyddyn wedi eu harddangos yn eglur.

Diogelwch

Ni chaniateir i rieni sy’n gyrru eu plant i’r ysgol barcio ar y llinellau melyn y tu allan i’r ysgol (yn cynnwys y cilfachau bysiau). Mae gwneud hynny’n anghyfreithlon ac yn beryglus ar gyfer ein plant. Rydym yn aml yn cael ymweliadau gan yr heddlu i gadarnhau’r cyfyngiadau.

Ni chaniateir cŵn o gwbl ar dir yr ysgol. Gwaherddir ysmygu yn llym. Mae’r ysgol yn ymgymryd ag asesiad risg llawn ar y safle yn flynyddol.

Gwaeledd yn yr ysgol

Mae gennym dîm o gymhorthwyr cyntaf wedi eu hyfforddi yn yr ysgol a all ddelio â mân anafiadau. Os bydd eich plentyn yn sâl neu’n cael damwain yn yr ysgol, byddwn yn cysylltu â chi yn defnyddio’r rhifau cyswllt a ddarperir gennych ar y ffurflen SIMS y mae’n ofynnol i chi ei chwblhau pan fo eich plentyn yn mynd i mewn i’r ysgol am y tro cyntaf. Gofynnir i rieni roi gwybod i Ysgrifenyddes yr Ysgol er mwyn diweddaru’r rhifau cyswllt pan fo’n angenrheidiol. Mae’n hollbwysig bod gan yr ysgol gyfeiriad a rhif ffôn/rhif ffôn symudol cyfredol lle gellir cysylltu rhieni / gwarcheidwaid pe bai argyfwng. Os na allwn gysylltu â chi na’ch cynrychiolydd, byddwn yn gweithredu er lles gorau eich plentyn. Gall hyn gynnwys mynd â hwy i’r ysbyty.

Gwaeledd gartref

Os bydd eich plentyn yn mynd yn sâl gartref ac na all fynychu’r ysgol am unrhyw reswm rhowch wybod i ni cyn gynted ag y bo modd drwy ysgrifenyddes yr ysgol, ffôn ateb neu e-bost.

Nyrs yr Ysgol

Mae gennym dîm o nyrsys ysgol sy’n ymweld â’r ysgol yn rheolaidd i weithredu ystod o brofion clyw, gweledol a deintyddol. Rhoddir gwybod i’r rhieni bob amser ymlaen llaw a gallant dynnu eu plentyn allan o’r archwiliad meddygol os dymunant.

Bugeiliol

Mae’n hollbwysig i ni bod eich plentyn yn hapus tra’i fod yn Rhoscolyn. Os am unrhyw reswm y dymunwch drafod unrhyw bryderon a all fod gennych ynghylch eich plentyn gydag athro, gwnewch hynny. Os bydd problem yn codi gartref a all effeithio ar addysg eich plentyn, eto, dewch i siarad â ni’n gyfrinachol.

Gwybodaeth Gyffredinol
_____________________________

Presenoldeb

Mae’n ofynnol i bob plentyn o oedran ysgol yn ôl y gyfraith fynychu’r ysgol ar bob adeg. Bydd rhieni nad ydynt yn anfon eu plant i’r ysgol yn cael eu cyfeirio at y Swyddog Lles Addysg a all benderfynu ymweld â’r cartref i gyfweld y rhiant/gwarcheidwad. Archwilir y cofrestrau presenoldeb yn ofalus iawn gan y Swyddog Lles Addysg ar sail reolaidd.

Os bydd eich plentyn yn absennol, bydd yr ysgol yn penderfynu p’run a yw’n ‘awdurdodedig’ neu’n ‘anawdurdodedig’. Bydd unrhyw absenoldeb nad yw’n ddilys (e.e. mynd i siopa, aros gartref ar gyfer pen-blwydd, mynd ar wyliau heb ganiatâd y Pennaeth) yn cael ei farcio’n ‘anawdurdodedig’.

Mae rhesymau dilys ar gyfer absenoldeb ‘awdurdodedig’ yn cynnwys: gwaeledd, apwyntiadau meddygol neu ddeintyddol, galar teuluol, neu unrhyw wyliau a ganiateir gan y Pennaeth.

Absenoldeb yn amser tymor

Pe bai digwyddiad anhebygol bod arnoch angen tynnu eich plentyn allan o’r ysgol yn ystod amser tymor, mae’n rhaid i chi ysgrifennu at y Pennaeth yn gofyn am ganiatâd. Ni chefnogir yn gryf dynnu eich plentyn allan o’r ysgol ar gyfer gwyliau teuluol yn ystod amser tymor gan y bydd yn torri ar draws addysg eich plentyn. Os bydd y Pennaeth yn penderfynu rhoi caniatâd i chi, yna bydd yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi.

Eiddo Plant

Rydym yn disgwyl i’r disgyblion ddysgu cymryd cyfrifoldeb am eu heiddo a pharchu eiddo eraill. I’n cynorthwyo gyda hyn, gwnewch yn siŵr:

* Bod yr holl ddillad ac offer wedi eu nodi’n glir gydag enw eich plentyn.

* Nad yw eich plentyn yn dod ag unrhyw eitem nad yw’n angenrheidiol i’r ysgol (megis teganau, ffonau symudol ayyb.)

* Bod eich plentyn yn rhoi gwybod i’w athro/athrawes am unrhyw eitem sydd ar goll. Byddwn yn dychwelyd i’ch plentyn unrhyw eitem sydd ar goll gydag enw arni. Eir â phob eitem ddi-enw i Eiddo Coll.

* Bod eich plentyn yn gofyn am gael edrych am eitemau coll yn y casgliad o Eiddo Coll. Ar ddiwedd pob tymor, ailgylchir unrhyw eitemau sydd heb eu casglu.

Gwisg Ysgol

Mae gan Ysgol Rhoscolyn wisg ysgol y mae’r Llywodraethwyr yn annog yn gryf cydymffurfio â hi.

Genethod

Tiwnig, sgert neu drowsus ysgol glas tywyll

Crys polo melyn

Cardigan, siwmper/crys chwys glas tywyll

Ffrog batrwm sgwarog las/wen neu felen/wen

Cnu (gwisg awyr agored yn unig)

Bechgyn

Trowsus neu drowsus cwta du/glas tywyll

Crys polo melyn

Siwmper/crys chwys glas tywyll

Cnu (gwisg awyr agored yn unig)

Mae Gwisg Ysgol Rhoscolyn ar gael o Swyddfa’r Ysgol, Siop M and E Caergybi a Brodwaith, Pentrefoelas. Cysylltwch ag Ysgrifenyddes yr Ysgol am wybodaeth bellach.

Gwybodaeth Gyffredinol
___________________________

Gwneud cwynion

Pe na baech yn hapus am unrhywbeth yn Rhoscolyn, dylech drafod hynny bob amser yn yr achos cyntaf gyda’r athro dosbarth/athrawes ddosbarth. Os nad ydych yn hapus gyda’r canlyniad yna gellwch wneud apwyntiad gyda’r Pennaeth. Os bydd eich cwyn yn parhau heb ei datrys er eich boddhad, yna gellwch gysylltu â Chadeirydd y Corff Llywodraethu. Gellir gwneud hynny yn ysgrifenedig drwy adael llythyr ym mlwch post yr ysgol, wedi ei gyfeirio at Gadeirydd y Llywodraethwyr, d/o Ysgol Rhoscolyn.

Teithio i’r ysgol

Mae Rhoscolyn yn cael darpariaeth gludiant o ardal y Fali ac ardal Caergybi yn ddyddiol.

Mae’r AALL yn darparu cludiant ysgol di-dâl ar gyfer disgyblion llawn amser 4-11 oed fel a ganlyn:

· ar gyfer disgyblion ysgol gynradd sy’n byw 1.5 milltir neu fwy o’r ysgol y maent yn byw yn ei dalgylch

· ar gyfer disgyblion gydag anghenion addysgol arbennig neu ar dir meddygol neu amgylchiadau unigol eraill, y mae’r AALL yn ei ystyried sy’n peri bod cludiant di-dâl yn angenrheidiol.

· ar gyfer disgyblion sy’n mynychu ysgol nad yw’n ysgol eu dalgylch os mai honno yw’r ysgol agosaf i’r cartref, ac os yw’r pellter o’r cartref i’r ysgol yn 2 filltir neu fwy ar gyfer disgyblion o dan 8 oed neu’n 3 milltir neu fwy ar gyfer disgyblion 8 oed neu hŷn.

Ar wahân i’r plant hynny yn (iii) uchod disgwylir i blentyn gerdded pellter rhesymol i gyfarfod ag unrhyw gludiant a ddarperir.

· Disgyblion ysgol gynradd sy’n byw o fewn 1.5 milltir o’r ysgol

Darperir cludiant ar gost ostyngol o 10ceiniog y daith argyfer disgyblion sy’n byw o fewn 1.5 milltir o’r ysgol.

Yn arferol mae’n ofynnol i ddisgyblion y rhoddir caniatâd iddynt fynychu ysgol wahanol i’r ysgol sy’n gwasanaethu’r dalgylch y maent yn byw ynddi wneud eu trefniadau cludiant eu hunain a chyfarfod â’r costau cysylltiedig. Bydd yr AALL yn ystyried ceisiadau mewn perthynas â disgyblion o’r fath ar gyfer caniatâd i gymryd seddau gwag ar gerbydau contract ysgol ar gost sy’n cyfateb â chost cludiant cyhoeddus. (Nid yw’r trefniant hwn ar gael i ddisgyblion sydd â’r defnydd o wasanaeth cludiant cyhoeddus). Cost cludiant cyhoeddus yw 80c dwy ffordd y disgybl y dydd ar hyn o bryd.

Ni ddarperir cludiant ar gyfer disgyblion meithrin rhan-amser.

Dylid gwneud ymholiadau ynghylch unrhyw fater perthynol i ddarparu cludiant ysgol i’r swyddog Cludiant yn Llangefni.

Gwybodaeth Gyffredinol

________________________________________

Ein tiroedd helaeth

Mae ein tiroedd yn darparu’r cynfas delfrydol ar gyfer chwarae creadigol, astudiaethau natur, tyfu planhigion a llysiau ac ystyrir hwy’n estyniadau ar ein dosbarthiadau. Mae pob dosbarth yn gofalu am yr ardd yn eu tro, gan ennill dirnadaeth a gwybodaeth gwerthfawr o faterion garddwriaethol. Cefnogir y gerddi gan Wirfoddolwyr Byddin Garddio’r Ysgol, ac mae Rhoscolyn ar hyn o bryd yn cartrefu:

draig helyg fyw,

gardd bywyd gwyllt,

gardd lysiau,

ardal wlyb,

a gardd glan y môr.

Rydym yn falch o’n galw ein hunain yn un o Ysgolion Gwyrdd Gwynedd a Môn.